#

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-703

Teitl y ddeiseb: Cynnig i ohirio’r Cyfyngiadau ar Bysgota yn Afonydd Cymru.

Testun y Ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynnig dal a rhyddhau 10 mlynedd ar gyfer yr holl eogiaid ar afonydd Cymru yn cael ei ohirio ar unwaith, er mwyn i asesiad effaith llawn a phriodol gael ei wneud o effeithiau ar fusnesau lleol a’r economi twristiaeth, ar adeg pan mae economi Cymru eisoes yn dioddef oherwydd y dirywiad mewn cynhyrchu dur. Rydym yn credu bod y mater hwn yn gofyn am sylw brys.

 

Yr wyf yn gadeirydd Clwb Pysgota Abergwili, a leolir yng Nghaerfyrddin ac rwy’n poeni am gynigion diweddar gan Cyfoeth Naturiol Cymru i osod polisi dal a rhyddhau yn unig deng mlynedd ar gyfer eog ar holl afonydd Cymru, heb unrhyw dystiolaeth wyddonol bod pysgotwyr pleser yn gyfrifol am y dirywiad mewn stoc eogiaid mudol.

Mae canran uchel o aelodau’n clwb yn teithio i mewn i Gymru gan ddod â refeniw mawr ei angen i’r economi leol. Isod fe welwch ddarnau o adroddiad technegol Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun sy’n tynnu sylw at y colledion a allai ddigwydd, yn dilyn pysgotwyr yn peidio â dod i Gymru, fel y disgwylir, os bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwrw ymlaen â rhaglen dal a rhyddhau eog 10 mlynedd.

 

Cefndir

Mae 31 o afonydd yng Nghymru sy’n cynnwys stociau eog (Saesneg yn unig), ac o’r rhain caiff 23 eu dynodi fel prif afonydd eogiaid. O’r 23 o afonydd hyn mae pedair wedi’u dynodi’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd Ewropeaidd. Mae terfynau cadwraeth a thargedau rheoli wedi’u sefydlu ar gyfer y prif afonydd.  

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am reoli pysgodfeydd mewndirol a physgodfeydd eogiaid yng Nghymru. Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru, fel awdurdodau pysgodfeydd eraill yn y DU, bwerau i lunio is-ddeddfau cenedlaethol a lleol i gynorthwyo gyda chadwraeth stociau pysgod yn afonydd Cymru. Mae’r is-ddeddfau hyn yn rhoi nifer o gamau rheoli ymdrech ar waith i sicrhau bod defnyddio stociau’n digwydd ar lefelau cynaliadwy. Gall y rhain gynnwys camau fel cyfyngiadau o ran y gêr y gellir eu defnyddio i bysgota gwahanol rywogaethau, yr adegau o’r flwyddyn y gellir pysgota gwahanol rywogaethau ac o ran y lleoliadau y gall gwahanol rywogaethau gael eu pysgota. Gelwir un dull o reoli ymdrech o’r fath yn ddull dal a rhyddhau. Mae hwn yn gosod gofyniad ar i bob pysgotwr ddychwelyd unrhyw bysgod y mae’n eu dal i’r afon.

Mae nifer o is-ddeddfau cenedlaethol a lleol eisoes ar waith ar gyfer pysgodfeydd eogiaid yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys is-ddeddf genedlaethol sy’n datgan y dylai unrhyw eogiaid a gaiff eu dal yng Nghymru cyn 16 Mehefin 2016 gael eu dychwelyd i’r afon. Mae is-ddeddfau lleol dal a rhyddhau hefyd eisoes ar waith ar yr Afon Gwy, yr Afon Taf a’r Afon Elái.

Mae Canolfan yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Gwyddor Acwafeithrin (CEFAS) ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru yng Nghymru, ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr, yn llunio adroddiad blynyddol ar stociau eogiaid a physgodfeydd (Saesneg yn unig) yng Nghymru a Lloegr. Cyhoeddwyd asesiad rhagarweiniol ar y lefelau stoc ar gyfer 2015 ym mis Mai 2016. Mae’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth flynyddol am statws stoc y prif afonydd eogiaid yng Nghymru a Lloegr. Caiff y statws stoc ei fesur yn ôl pedwar categori:

§  Caiff afonydd lle y mae siawns y bydd 95 y cant o leiaf o’r targedau cadwraeth a rheolaeth yn cael eu cyrraedd eu dosbarthu fel rhai ‘ddim mewn perygl’;

§  Caiff afonydd lle y mae siawns y bydd rhwng 50 a 95 y cant o leiaf o’r targedau cadwraeth a rheolaeth yn cael eu cyrraedd eu dosbarthu fel rhai ‘yn ôl pob tebyg ddim mewn perygl’;

§  Caiff afonydd lle nad oes ond siawns y bydd rhwng 5 a 50 y cant o’r targedau cadwraeth a rheolaeth yn cael eu cyrraedd eu dosbarthu fel rhai ‘mewn perygl yn ôl pob tebyg’; a

§  Chaiff afonydd lle y mae llai na 5 y cant o siawns y byddant yn cyrraedd targedau cadwraeth a rheolaeth eu dosbarthu fel rhai ‘mewn perygl’.

O blith y 23 o brif afonydd eogiaid yng Nghymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn nodi bod    pob un ond dwy ohonynt wedi’u dosbarthu fel ‘mewn perygl’ neu ‘mewn perygl yn ôl pob tebyg’. Bernir bod y pedair afon a ddynodwyd yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig mewn statws cadwraeth anffafriol. Mae rhestr o’r dosbarthiadau ar gyfer yr afonydd unigol ar gael ar dudalen 65 o adroddiad CEFAS.

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru gyfrifoldeb dros reoli pysgodfeydd eogiaid yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r corff wedi bod yn mynd drwy broses o ystyried pa gamau ychwanegol y gall fod eu hangen, os o gwbl, i fynd i’r afael â’r dirywiad mewn stociau eog yn afonydd Cymru.

Ar 17 Mawrth 2016, cyflwynwyd papuri Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd gan y corff yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i fynd i’r afael â’r dirywiad o ran stociau, ac yn amlinellu cynigion ar gyfer gweithredu pellach. Roedd y papur yn nodi, er nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn mai pysgota â gwialenni a rhwydi yw prif achos y dirywiad o ran stociau, mae’n credu y gellir cynyddu nifer y pysgod sy’n goroesi i’r cam silio mewn afonydd yng Nghymru, yn y tymor byr, ‘dim ond os bydd pysgotwyr gwialen a rhwyd ​yn rhoi’r gorau i’r lladd yn gyfan gwbl’. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datgan bod dal a rhyddhau yn ffafriol o’i gymharu â chau pysgodfeydd yn gyfan gwbl, gan fod hynny’n galluogi llawer o fanteision cymdeithasol-economaidd y pysgodfeydd i barhau.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn datgan ei fod yn ymgynghori’n ffurfiol ac yn anffurfiol â physgotwyr a grwpiau pysgodfeydd lleol ar y camau posibl y gellir eu cymryd i reoli stociau eogiaid, gan gynnwys drwy dosbarthu holiadur. Mae’r corff yn disgwyl cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar gynigion i fynd i’r afael â’r mater yn ystod hydref 2016 neu ar ddechrau 2017. Y cynharaf y gallai unrhyw fesurau newydd posibl fod ar waith fyddai’r tymor pysgota 2017.

Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Nid yw’r mater hwn wedi cael ei ystyried gan y Cynulliad eto.

 

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei chyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.